buasai wedi llwyddo hefyd, oblegid yr oedd yn hŷn na'r un ohonynt, ac yn gono lled gryf gyda llaw.
Ymhen ychydig diweddwyd y gwasanaeth byr, daeth y bobl allan, ac ail-ffurfiwyd yr orymdaith gyda'u hwynebau yn ôl tuag at y Farmers i fwynhau y wledd ddarpar oedd yn eu haros. Wedi cyrraedd y gwesty yr ail waith dodwyd yr offerynnau mewn gody bychan wrth gefn y tŷ, a mawr oedd balchter y ddau lanc o gael eu galw unwaith eto i ofalu am y pethau gwerthfawr tra bwytâi eu perchenogion wrth y ford fawr yn ystafell hir y llofft.
Ni ddigwyddodd dim am ryw ugain munud, ond pan oedd yr amser yn dechreu mynd yn hir ac undonog, wele Dwm Ddwl yn curo ar wydr y ffenestr ac yn dywedyd wrth Ddaff mewn osgo lled wyllt,—"Mam moyn di!"
Ar hyn caeodd yr hogiau ddrws y gody ar eu holau, ac aeth Glyn gyda Daff i fyny i'r tŷ i weld beth yr oedd Mrs. Owen yn ei ymofyn. Erbyn cyrraedd ohonynt yno cawsant y drws yng nghlo arwydd a brofai fod y fam allan, ac a brofai hefyd mai celwydd a scil Twm yn unig oedd yr alwad wrth y ffenestr.
Wrth dynnu yn ôl tua'r Farmers drachefn, cydiodd Glyn ym mraich Daff yn sydyn gan ddywedyd,— "Ust! Clyw! Dyna'r ddrwm fawr, 'rwy'n siwr!
Rhedasant ill dau ar hyn, ac o ddyfod gyferbyn â'r siop gwelent yn y pellter haid o hogiau, ac yn eu canol rywun yn cario'r ddrwm fawr ac yn ei churo yn egnïol iawn.
Rhedasant yn gynt ar hyn, a buan yr adnabuant nad neb llai na Thwm Ddwl oedd yr un a gynyrchai'r sŵn.
Ymhen ychydig daliasant ef ac yntau erbyn hyn yng nghwr pellaf y pentref, sef gyferbyn â chroesheol gul y Dyffryn. Pan welodd ef hwy yn ei ymlid taflodd y lloeryn celwyddog y ddrwm oddiwrtho, ac i lawr i'r lôn yr aeth honno gan ymrolio i gyfeiriad yr afon.
Rhedodd Glyn ar ôl y tabwrdd mawr, ond arhosodd Daff ar ben y lôn i fygwth Twm. Ni wnâi hwnnw