Tudalen:Daffr Owen.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a gawswn, man lleia', ac i ffwrdd â fi, fel ag yr oeddwn, at Shoni 'mrawd i Ferthyr. A dyna'r lle 'rwy' eto, yn ennill dwy bunt yr wythnos ac yn half-back i'r Cyfarthfa Crusaders hefyd, diolch i'r hen fuwch! Ha! Ha! Daff! Rho dy law!

VIII. YR ANFFAWD FAWR

NI phrofodd Daff erioed yn ei fywyd amser mwy adfydus na'r dyddiau y bu Glyn ar goll. Er y chwilio i gyd, credai yn ei galon (er na ddywedodd hynny wrth neb, naddo, hyd yn oed wrth ei fam) mai yng ngwaelod Llyn y Tro Mawr oedd gerllaw lôn y Dyffryn y ceffid corff ei gyfaill. A phan ddaeth y llythyr o Ferthyr i ddywedyd bod Glyn yn ddiogel yno, nid oedd neb yn fwy balch na'r hwn a oedd yn gyfrannog ag ef yng ngofal y ddrwm.

Ac er na feddyliodd Daff ddim am hynny ar y pryd, rhoddodd encil Glyn liw gwell ar drosedd y cyfaill a ddaliodd ei dir. Ac yr oedd digon o'r pentrefwyr wedi gweld Twm Ddwl yn ei thabyrddu hi i lawr dros yr heol brynhawn y Sadwrn hwnnw, ac yn cofio mai ef oedd gyfrifol, os cyfrifol hefyd, am yr holl helbul.

Un peth a darawodd Daff yn fawr y dyddiau hynny oedd tynerwch ei fam tuag ato. Un o anian addfwyn oedd Sioned Owen yn naturiol, ond pan welodd hi y trybini yr aethai ei mab yn ddifai iddo, torrodd ei theimlad mam allan yn ddengwaith cryfach, a pharodd i Ddaff ei hanwylo yn fwy nag erioed.

Ymhen blynyddoedd lawer ar ôl hyn, a hi bellach wedi marw ers amser, cofiai Daff, ynghanol siom a chaledi gwlad estron, yn fynych am y dyddiau hyn, a pharai'r atgof amdanynt iddo golli llawer deigryn am ei fam hoff.

Ond ar hyn bryd yr oedd y ddau gyda'i gilydd yn y bwthyn ger yr heol, yn breuddwydio am yr amser hyfryd oedd yn neshau pan fyddai Daff yn gweithio, a'i fam yn "cadw tŷ iddo. Dim rhagor o help gan y plwyf wedi hynny, bid sicr! Byddai ef yn