Tudalen:Daffr Owen.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond un, ma' nhw'n ei alw'n Jim Skittles. Ond gofala di, paid ti galw hynny arno ne' fe fydd yn ddo-bin-ô arnot ti. James Jones yw ei enw right, a ma' fa'n dipyn o friwser, cofia!"

"Wel, yto, o ble wyt ti'n dod?

Cwmdŵr."

"Beth?"

"Cwmdŵr!"

"Fe fasa'n well yn Gwm Whisgi, wyt ti ddim yn meddwl? Ond dyna fe, allet ti ddim help pe tasa fa'n Gwm Pop. Dera mlân i ni gâl dechra! Ma' bwyd gen't ti, sbo?"

Tynnodd y cantwr ei gôt i ffwrdd, ac er syndod i Ddaff, y peth cyntaf a wnaeth oedd curo'r mur glo à hi, fel pe am ladd rhyw gacwnen danddaearol a oedd yno. Beth mae hynyna da?" ebe'r llanc syn.

"Gas!" oedd yr ateb swta. "Weli di'r clust yma?" ebe'r Cantwr drachefn, gan gyfeirio at yr aelod hwnnw a oedd fel pe wedi crino. "Gas, yto, wyt ti'n gweld! Ffluwchan o dân yn Lefal y Swamp, 'slawer dydd yn ôl!"

Deallodd Daff cyn i'r dydd ddarfod fod nwy ambell waith yn crynhoi ar radd fechan yn y lefal fel ag y gwna ar radd fwy peryglus yn y pwll, a bod y ffluwchen dân i'w hofni lle bynnag y bo, fel yr oedd clust crin y Cantwr yn dyst.

Tybiodd Daff fod ei gydymaith yn ei dreio y bore hwnnw, ac nid yn unig yn gweithio'n ddiwyd ei hun, ond yn peri iddo yntau, o dan gyfarwyddyd, i fod yn ddiwyd iawn hefyd. Wedi treulio rhan o'r bore yn y modd hwn, gwaeddodd y Cantwr allan yn sydyn, Spel Whiff!" Ni ddeallai Daff mo'r frawddeg, ac aeth ymlaen a'r gorchwyl mewn llaw.

"Gad hi, boy bach!" ebe fe. Chlywast ti ddim 'Spel Whiff?

A phan welodd Daff ei gydymaith yn paratoi i ysmygu, deallodd mai orig fechan o seibiant oedd y Spel Whiff."

Dwyt ti ddim wedi dechra smoco, sbo? Wel paid! Ond ishta lawr 'run peth!"