Tudalen:Daffr Owen.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mor bell yn ôl yr ymddangosai y pethau hyn i'r llanc trist, ac mor annhebig eu gweld byth mwy. O feddwl am ei fam daeth y syniad iddo mai dyma'r dydd y byddai'n well iddo ysgrifennu at ei hanner- brawd yn Winnipeg—y brawd na welsai ei wyneb erioed. Ac am mai dieithr iawn iddo a fyddai'r Ysgol Sul heb adnabod neb ynddi, penderfynodd baratoi'r llythyr y prynhawn hwn. Efallai, pwy a wyddai, y deuai i adnabod rhyw aelod o'r ysgol cyn y Saboth wedyn.

Felly ar ôl cinio aeth at y llythyr. Dywedodd wrth ei frawd am farwolaeth sydyn ei fam, a charedigrwydd pawb yn yr amgylchiad. Rhoddodd fanylion y trengholiad a'r angladd, a diweddodd gyda chyfrif manwl o werthu yr ychydig gelfi ac o dalu'r mân ddyledion. "And here I am (ebe fe, gan roddi ei gyfeiriad yn llawn), trying my very best to earn my own living, and keep myself respectable." Dim un gair am bosibilrwydd methiant, nac ychwaith awgrym am gardod neu help o unrhyw fath.

Gosododd y llythyr y naill ochr i'w anfon i ffwrdd brynhawn trannoeth, ac aeth yn ôl ei fwriad i gapel y Bedyddwyr i wasanaeth yr hwyr. Yr oedd y lle yn orlawn, ac ymhlith cynifer o bobl nid oedd neb yn sylwi ar y llanc gwylaidd a eisteddai ar sedd uchaf yr oriel, sef "sêt y cwmpni" (chwedl rhai).

Deubeth yn neilltuol a dynnodd sylw Daff y noson honno y wedd ddwys ar wyneb y pregethwr, a'r canu ardderchog gan y dorf. Gwnaeth un fel y llall argraff fawr arno, yn fwy efallai am fod ei feddwl ef ei hun mewn cywair i'w derbyn ar y pryd.

Yn nhywyllni ei ystafell fechan ar ôl ymneilltuo i gysgu y noson honno, clywai o hyd ac o hyd ddylif mawl y dorf yn curo ar ei glyw hyd oriau mân y bore, gyda'r geiriau bendigedig:—

"O! santeiddia f' enaid, Arglwydd,
Ym mhob nwyd ac ym mhob dawn,
Rho egwyddor bur y nefoedd
Yn fy ysbryd llesg yn llawn,
N'ad fi grwydro, N'ad fi grwydro
Draw nac yma o fy lle."