Tudalen:Daffr Owen.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Hepiodd am ychydig, yna clywai lais unigol- llais mwyn benywaidd yn canu'r un peth, ac mewn rhyw hanner breuddwyd gwelai mai ei annwyl fam ei hun ydoedd.

XII. CANU A CHANTORION

"DAFF! Daff! cwnnwch! 'newch chi! Mae'n gwarter wedi 'wech!" Dyna'r geiriau a darawodd ar glyw y glowr bach gyntaf fore dydd Llun. Neidiodd o'i wely, a chyn pen deng munud yr oedd wrth y bwrdd yn cymryd ei frecwast, ac yn barod i ddechreu wythnos arall o lafur.

Wedi mynd ohono ef allan o'r groesheol lle y lletyai, gwelai gannoedd o lowyr, yma ac acw, yn cyfeirio at y lofa hon neu'r lofa arall. Wrth "wddwg" ei lofa ef ei hun gwelodd ei bartner ynghanol rhyw ddwsin o'i gydlowyr, yn ei dadleu hi yn egniol iawn am rywbeth na wyddai Daff ddim o'i blegid, a'r cwbl mewn miri mawr am uchel her neilltuol a roddasai'r Cantwr pan. yn troi i ymadael â hwy.

Wedi cyrraedd o hwnnw i'r talcen glo a chyfarch Bore Da! i Ddaff cyn dechreu'r gwaith.

"Dyna foneddig 'ro'ech chi neithiwr, D.Y.," ebe'r llanc. "Gwelais chi a rhyw hanner dwsin o bapurau dan eich cesa'l wedi i fi ddod ma's o'r capel, ond yr o'ech yn rhy brysur i sylwi arna' i. Pam gymaint o hast ar nos Sul?"

"O, machan i, mynd i'r practis 'rown i, a dipyn yn ddiweddar yn cyrraedd, dyna i gyd. Wela's i monot, chwaith, neu ffêr dŵs, fe faswn wedi gweud rhwpath."

Practis i beth, D.Y?"

"O, bachan! 'steddfod Penybont sy wrth y drws, a ma'n parti ni yn cynnig yno. Chlywa'st ti ddim ohonyn nhw wrth y gwddwg, gynna' fach? Boys Treorci bob un. Ma' nhw'n cretu ma' nhw yw'r top dogs ar y Destruction, ti'n gweld. A 'wara teg, ma' nhw'n canu'n dda digynnig, rhyngton ni'n dou