Tudalen:Daffr Owen.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Chwarddodd pawb oedd o fewn clyw, canys deall yr oeddynt yr ergydion a oedd yn y canu, a buan yr ymgynhullodd at ei gilydd y ddau ddatganwr, Jim Skittles a dau arall, heblaw Daff a chrwt y talcen nesa'.

"Spel Whiff, boys!" ebe Jim. "Pwy sy'n mynd i ennill ym Mhenybont? Ma' arian 'n talcan ni i gyd ar y Pentra, ta' beth!" ebe fe ymhellach.

"Wel, chi 'u collwch nhw i gyd hefyd!" ebe'i halier. "Ond rhaid i fi fynd, ma'r shwrna ar y ffordd, ne' fe faswn yn gweud pam mae'n rhaid i'r Pentra golli. Hylo! boy bach! (hyn at Daff), catw dy goesa' yn nhre, neud di! Fe fuo i bron damshal ar dy drestls di heb yn wypod. Dyna'r gwaetha o foys parti'r Pentra, ma' nhw shwd rai bach i gyd. Down bass wyt ti'n ganu, sbo! 'Ma fi'n mynd!"

"Paid shimplo neb, Shoni!" ebe Skittles, gan weiddi ar ôl yr halier direidus a oedd yn prysuro oddi— wrthynt. "Un bach oedd Tom Sayers, cofia!"

"Little and good, on'd iefa? Daff!" ebe fe drachefn gan droi yn ôl yn serchog at y glowr_bach, "Paid hito! 'do'dd e'n meddwl dim drwg. Dyna'i ffordd a, dyna gyd.'

Aethpwyd ymlaen wedi hynny i siarad am bethau eraill, ond yr oedd Daff cyn diwedd y "Spel Whiff" wedi ei ennill yn bleidiwr selog i barti'r Pentre—yn ei feddwl yn unig, wrth gwrs—oblegid ni chlywodd ef eto y naill barti na'r llall yn canu. Rhyfedd fel yr ennill gair teg, onide ? a rhyfedd fel y tramgwydda gair swrth hefyd!

Dechreuodd Daff gymryd diddordeb yn y "Spel Whiff" fel sefydliad hefyd. Hon ydyw orig y siarad y sydd wedi bod mor boblogaidd erioed gan lowyr y lefelau ymhobman, ac a etyb yr un diben yn y gweithie ag a wna efail y gof a siop y crydd yn y wlad, sef yw hynny, trafod pynciau'r dydd yn gyffredin. Nid oedd yr hogyn wedi bod eto ond wythnos yn Lefel yr Ocean, ond o fewn y cyfnod hwnnw clywodd fwy o drin a thrafod gwahanol destunau nag a glywsai yn ei oes cyn hynny. Yn eu plith yr oedd pregethau cyfarfodydd blynyddol "Noddfa," y bardd ieuanc