Tudalen:Daffr Owen.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Shoni'n canu un oedd hi'n ffond ohoni, ond nid yw e'n i chanu hi 'run peth i'r dim."

"Beth yw honno?"

Ffarwel i Langyfelach,' ac ma' fa'n gatal y penillion gora' ma's, 'rwy'n cretu."

"O, wel, dwed di hynny wrtho fa, nei di, a fe dy baca' i di i'r lan. Dyma fa'n dod ar y gair !

"Clustfeiniodd y ddau lowr am ennyd, a chlywsant yr halier cerddgar wrthi yn ôl ei arfer yn cymysgu ei gân â chyfarwyddiadau i'w geffyl a'r dryswr bach,—

Ffarwel i Langyfelach lon

"Come, Jim!"

A'r merched ifanc oll o'r bron

"Dera, nei di."

Rwy'n mynd i weld pa un sydd well

"Tro'r pwyntars 'na!"

Ai ngwlad fy hun, ai gwledydd pell

"Whoa!"

Chwarddodd y ddau yn ddistaw, a chyn iddynt ddibennu dyna lais Shoni yn gofyn,—"Beth am y ddram 'na, Pentra?"