Cwmparc dere lan yma am funud, nei di? Pam na gani di'r gân yn right?"
"Be' sy'n wrong arni?
"Wrong, wir! Cân y penillion i gyd, yn lle codlach yr un hen bennill o hyd!"
Wel, cân di nhw ta, os wyt yn eu gwpod nhw'n well!"
"Rwy'n gwpod mwy na thi ohonyn' nhw, ond dyma foy bach sy'n eu gwpod i gyd. Ia! Ia! Yr un boy bach o'ut ti'n ei alw yn down bass bwy ddydd. Dyna'ch ffordd chi yn Nhreorci, shimplo pawb a phopath."
"Dwêd nhw wrtho fa, Daff!"
Ar hyn, dechreuodd y llanc eu hadrodd, a hawdd iddo oedd eu cofio i gyd, canys clywsai ei fam yn eu canu ganwaith. Pan ddaeth at y penillion olaf,—
"Marchio wnawn tua Llundain fry,
Duty caled ddaeth arnom ni,
Handlo'r ddryll, a'r cleddyf noeth,
Y bullets plwm, a'r powdwr poeth.
Os gofyn neb pwy wnaeth y gân,
Dywedwch chi mai merch fach lân
Sydd yn gweddio bob nos a dydd,
I'w chariad annwyl ddod yn rhydd."
amlwg oedd bod Cwmparc yn eu clywed am y tro
cyntaf, a phan ddibennwyd, ebe fe ar unwaith, "Da
iawn, wir ! Da iawn, wir!
Rhaid i fi gâl y rheina
gyda ti.
A chyda llaw 'down i 'n meddwl dim drwg
bwy ddydd 'ma, nag o'wn, wir. O's rhacor o ganeuon
gen't ti?"
Cyn y gallodd Daff ei ateb un ffordd na'r llall, bwriodd y Cantwr i mewn,—
"'M, bachan, ôs, cannoedd o nhw. I dylwyth e' yw'r cantorion gora' round i Builth. 'I fam e' oedd Eos Llywel, a ma'i frawd hena' yn broffeswr mawr vm 'Merica': reg'lar top—notcher he'd! Fe ro i gyngor i ti, Shoni, meddwl di lai am d'hunan a dy Dreorci a mwy am ddyn'on sy'n amgenach na ti. 'Dwyt ti ddim yn bad sort i gyd. Ond dyna fe, cofia beth 'wy i 'n 'weud! Mâs a'r ddram 'na 'nawr!"