Tudalen:Daffr Owen.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Wel, atrodd beth ohono, ynte!"

Yna yn lle ateb, chwarddodd Daff, oblegid yn ei fyw ni allai roi dim amgenach na,—" A Job a atebodd ac a ddywedodd," a daeth i'w góf am yr amser pan oedd plant Llywel yn cystadlu dysgu am y mwyaf o adnodau am wobr yr athro, a bod y frawddeg honno beunydd yn adnod wrthi ei hun yn y llyfr, a'u bod hwythau yn wastad yn dysgu yr adnod nesaf gyda hi er mwyn cael dwy yn lle un.

Esboniodd Daff y peth i'w gydymaith, gan chwerthin rhagor. Ond hwnnw ni chwarddai o gwbl, a dywedodd, "O, fel 'ny, iefa ? Ro'wn i'n meddwl nad oedd dim trics yn Shir Frychinog. Ffei! Daff! Ond dere â'r Beibl bach gen't ti i'r gwaith bore 'fory. Fe atebodd ddangosai i well petha' i ti yn Llyfr Job na'r ac a ddywedodd sgêmus yna. Paid anghofio, cofia!"

Bore trannoeth ped elid i "dalcen" neilltuol yn "Lefel yr Ocean" amser 'Spel Whiff," gwelid yno un yn tynnu allan Feibl bychan, ac yn troi ei ddalennau, tra thynnai un arall gopi o gerddoriaeth allan o logell ei gôt uchaf, ac yno wrth lewych eu lampau yn cymharu rhai brawddegau â'i gilydd.

"Wyt ti wedi câl gafa'l ar Job?" gofynnai'r hynaf. "Wel, nawr tro i bennod y 39, a dechreua ddarllen yn Number 19,— A roddaist ti gryfder i'r march? etc. Dyna nhw! Daff! Glywaist ti rwpath gwell yrio'd? Dishgwl 'ma! 'Dwy i ddim yn ddyn capel, cofia, ond, bachan! 'ro'dd rhwpath yn cerad lawr i'm hasgwrn cefan i echnos pan o'dd Tom yn eu darllen nhw i'r Parti. Diain! Bachan! nhw'n dda! A dyna be' sy'n od—ma' nhw'n llawn cystal yn Sisnag hefyd. The real stuff! Daff! Oti'n tan i' marw! Three cheers i'r hen Feibl, 'weta'i! 'Nawr at y glo mân 'na, Davy, boy! Wn i yn y byd a yw'r Beibl yn sôn am lo mân, Daff! Nag yw, sbo!" ma'

Y rheswm am yr holl ddiddordeb hwn yn Llyfr Job oedd fod "The War Horse" yn un o'r darnau i gorau meibion yn Eisteddfod Genedlaethol y Bont, a oedd bellach yn agoshau, a bod yr ymarferiad ohono yn hawlio llawer o amser Parti'r Pentre ar y pryd.