Tudalen:Daffr Owen.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mynych yr âi Daff i'w clywed, a gwledd iddo'n wastad oedd y "Rhyfelfarch," ynghyd â'r "Tyrol" a'r Pilgrims "y tri darn a lanwai raglenni Chicago a Phontypridd yn gyflawn.

XVI. TRAMGWYDD DIFEDDWL

A hi ym min hwyr Mehefin yng Nghwm Rhondda a phelydrau'r gorllewin yn rhoddi "Nos Da" i gopâu Moel Cadwgan, cerddodd Daff am dro ar ôl swper i gyfeiriad Treherbert, ac wedi mynd gryn ffordd i fyny i'r cwm dros y brif heol, clywodd lais yn ei gyfarch o'r cyfnos,—

"How getting! Daff?"

Edrychodd ar yr hwn a'i cyfarchai, a gwelodd nad oedd neb amgen na Jim Skittles.

"Nos da, James! Tywydd braf!

"Ffein i ryfeddu, Daff. Dera 'miwn am lasiad!"

"Na, dim thenciw, James, ond fe gera nôl gyda chi os mai nôl ych chi'n mynd."

"Right o, Lad! os wyt titha'n siwr na fynni di ddim un."

"Eitha siwr, James, thenciw, gadewch i ni fynd."

Yn ôl yr aed, a'r naill yn ceisio dyfalu beth a fyddai'n fwyaf diddorol i'r llall.

'Rwy'n clywad 'ch bod yn dechra'r piler 'fory, James," gan gyfeirio at orchwyl neilltuol yn y gwaith. "Arian da am bythewnos, tebig iawn. Lwc i rai o hyd, James."

"O, fe fydd y tocins ddicon piwr figinta. Ond bachan gwelast ti pwy o'dd hwnna a basws?

"Naddo i. Pwy o'dd a? "Shoni Injinêr!"

"Pwy yw hwnnw? Odi e'n rhywun neilltuol?"

Wel, fe 'weta' wrthot ti pwy yw a, gan nag wyt ti'n gwpod, Mishtir Wil Rwsh, Dai Bacsa' a Bili Twm, ta' beth, a ma' rhai yn 'i faco fa yn erbyn Jack O'Brien, he'd."

"Injinêr ar beth yw a, 'i fod e'n fishtir ar gyma'nt yr un pryd?"