fyned. Ond oni welai Môr Iwerydd ef—Daff o Lywel— yn ei groesi cyn pen chwe mis, wel, nid yr hen Ddaff a fyddai o gwbl, ac nid y breichiau, na bu arnynt erioed ofn gwaith, oedd y rhai a symudai mor hoyw wrth ei ochr y foment honno. " O'r Pentra ag e'! O'r Treorci bach ag e'!" Dyna oedd y waedd wrth enau'r lefel, ac ar y partin dwpwl" y bore ar ôl yr Eisteddfod.
"Fachan byw! On'd oe'n nhw'n canu? Diwc annwl! Bu'r "Tyrol" bron tynnu'r pafiliwn am 'n penna'. Do, ta'n i'n marw! Chlywas i 'rio'd shwd beth! Am unwaith o leiaf boddhawyd pleidwyr y ddau gor lleol y naill fel y llall yn y dyfarniad, ac yr oedd Dai'r Cantwr a Shoni'r Halier yn gyd—arwyr am y tro, ac yn siarad ill dau yn garedig am y cór gwrthwynebol.
"Run man i fi 'weud y gwir," ebe D. Y., "pan glywasi Dreorci yn dechra'r War Horse,' mae'n ddobinó arno'n ni heddi', myntwn i wrth m' hunan. Ma'n nhw'n ormod i ni, y tro hwn, arno i ofn."
"Dyna beth od!" ebe Shoni 'n ôl. "Dyna'r very thing a 'wetas inna', pan o'ech chi foys yn clatsho ar y Tyrol. Ond dyna hi—teg yw teg—on'd iefa, Daff? A chyda llaw dyna dawal wyt ti, D.O., heddi'— be' sy'n bod, bachan? O'et ti ddim yn y 'Steddfod?"
"Own, wrth gwrs, ond yr ych chi gantorion yn 'wilia cymynt 'ch hunan, do's dim shawns i un tawal fel fi i ddoti gair i miwn ar 'i edge."
"Ha! Ha! tawal wir! Beth pe b'asa chi'n i weld e' ddo' yn y Bont ar ôl y feirniata'th, boys!— fe! my nabs, y bachan tawal, cofiwch yn citsho am genol 'rhen Ifan sy'n catw'r drws i'r côr, a'r ddou yn i walsan hi fel dou newydd—ddod—ma's o Benbont. O, ia, tawal! very tawal, ar fencos i! So long, boys! Come! Jim!"
Ffarwel i Langyfelach lon