Solo gyda ni. A dyma fachan bach (hyn gan osod ei law ar ei fynwes ei hun) sy'n mynd he'd. Pentra for ever!"
"Beth amdana' i nawr, D.Y? 'Roe'ch chi yn 'y meio i am 'ch gatal pan sonia's i gynta' am fynd i Winnipeg, a chi yw'r cynta' i fynd wedi'r cwbwl, wath fydda' i—fydda' i—ddim yn apal—ddim mewn ffordd i fynd am 'wech mis o leia'."
"Hold on! ar yr apal 'na, D.O! Os gall D.Y. fynd i Chicago, fe all D.O. fynd i Winnipeg 'run pryd. 'Nawr, dim gair—fel'ny mae i fod. Os pantner, pantner! Dyna ddicon! 'Rwy' i wedi meddwl am hynny trw'r nos n'ithwr wedi i flôc y Bridgend' i 'weud nad yw'r ddou le ddim ymhell iawn o'wrth 'i gilydd, hynny yw, fel ma' nhw'n counto ym 'Merica. Ma'n depig nag yw can milltir yno ddim mwy na decllath yma."
"Ond yr ych chi yn y Parti, D.Y. Dwy' i ddim."
"Ma' hynny'n wir. Ond, bachan, Where there's a will there's a way." Gad di hynny i fi. Fe fydd isha rhywun i gatw'r drws ne' sgrifennu notison ne' rwpath o'r siort yn Chicago fel sy' yma."
"'Dych chi ddim am i fi ddwyn job yr hen Ifan wrth y drws, ych chi?"
"Na, er mwyn y nefoedd paid sôn am hynny, ne' fe fyn yr hen Ianto dy dorri di mâs o'r capal am ladrad, 'rwy'n siwr! Ond dyna—gad di bopath i fi!"
Cyn pen yr wythnos gwyddai pawb fod Daff Owen— pantner Dai'r Cantwr," yn "assistant sec" i'r côr, a bod yn ei fwriad i fynd i Chicago gyda hwynt. Ond ychydig oedd yn gwybod—nid hyd yn oed Ďaff Owen ei hun,—fod y Cantwr ar ôl adrodd yr amgylchiadau wedi mynd yn gyfrifol yn bersonol i'r pwyllgor am bob cost yr elid iddo ar gyfrif ei gyfaill ieuanc ar y daith, ond y byddai ei wasanaeth fel ysgrifennydd yn hollol i'w helw hwy.
Felly, pan neshaodd yr adeg i gymryd y fordaith, ymadawodd y ddau lowr ar yr un dydd o Lefel yr