Tudalen:Daffr Owen.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

belled â'r lle, yn ôl i'w gorchwylion a'u byd cynefin, a phrysurodd y Cymry ar y bwrdd i'w paratoi eu hunain ar gyfer y fordaith a'r byd newydd a agorai y tu hwnt iddi.

XXI. DROS IWERYDD

NID oedd yn y fordaith hon ddim llawer yn wahanol i'r teithiau dros Iwerydd a gymerir mor fynych bellach gan y cenhedloedd ddeutu'r glannau. Bernid y byddai rhai o aelodau'r cor dan glefyd y môr am y dyddiau cyntaf, ac felly ni chynhaliwyd practis o un fath hyd nes y byddent rywfaint yn well. Ac am y dyddiau hynny nid oedd wahaniaeth rhwng aelodau'r côr a'r teithwyr eraill.

Ond pan glywyd y Cymry oddeutu'r pedwerydd dydd yn dechreu paratoi eu cân, rhoddodd hynny arbenigrwydd arnynt, a chyn yr hwyr daeth apel at y côr am iddynt roddi cyngerdd i'r First Class Passengers y noson honno. Hynny a wnaed gyda chanmoliaeth uchel oddiwrth y bobl a ymwasgai i'r State Room i'w clywed. Dyna'r tro cyntaf i lawer o'r rhain wrando ar leisiau Cymreig o gwbl, a llawer Cymro bach a welodd hefyd am y tro cyntaf ysblander y First class cabins a oedd iddo yng nghudd cyn hynny.

Fel hyn y torrodd "hud y gân" bob mur gwahaniaeth i lawr am rai oriau, a llawer un a aeth i'w wely cyfyng y noson honno gyda syniadau newyddion am ddosbarthiad y talentau, ac am hawl dyn fel dyn, ar wahan i'r hyn a ddigwyddai fod ganddo.

"Land in Sight!" Dyna'r waedd a glybuwyd pan oedd y bobl ar frecwast fore neu ddau yn nes ymlaen. Brysiodd pawb i ddibennu eu pryd bwyd, ac i ruthro am y cyntaf i'r bwrdd i'w weled. Nid oedd mwy nag wythnos er pan ymadawsent â thir cyn hynny. —paham y brys? Ha! onid hwn oedd eu byd newydd, byd eu gobeithion, a byd eu cartref dyfodol? Felly, i fyny i'r bwrdd â hwy i gael yr olwg gyntaf ar y wlad yr oedd llawer ohonynt wedi dechreu ei phalmantu ag aur eisoes!