Tudalen:Daffr Owen.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

da ar y bwrdd wedyn, yna un practis cyn mynd i gysgu am y nos. Dau bractis yfory, a'r gystadleuaeth (y deuthpwyd bedair mil o filltiroedd i'w chynnig)— diennydd.

Cymru am Byth!

XXII. "FFAIR Y BYD"

"Hoi, boys! shwd ma'r Iankees yn wilia Cwmrâg? 'Rwy'n gwpod shwd ma' nhw'n treio wilia Sisnag," ebe Twm Watkin, un o'r Second Tenors, gan annerch y côr ychydig cyn cychwyn y practis cyntaf yn Chicago. Ac ar hyn efelychodd mor berffaith iaith drwynol "ystiward bwyd" y trên fel y deallodd pawb, ac y chwarddodd pawb hefyd Dechreuodd un ac arall adrodd eu helyntion wrth geisio deall pobl y Taleithiau yn eu siarad, ac aeth yn grechwen fawr.

Ar hyn daeth yr arweinydd i mewn, ac wrth glywed y grechwen, gofynnodd beth oedd yn bod. "O, dim byd, Tom, ond bod Twm Watkin yn mynd i sefyll am fod yn Bresident y wlad y tro nesa', a'i fod wedi dechra' practeiso ishws."

"O, wel, fe all hynny aros. Practis y côr yn awr. Chi wyddoch fod côr o Gaernarfon yma, tebig. 'Rwy' i wedi clywed hefyd 'u bo' nhw'n canu'n neilltuol o dda. 'Nawr, ati, fechgyn!"

Ac ati yr aethpwyd.

Erbyn mynd i'r Eisteddfod nid oedd angen i Dwm Watkin ofyn sut yr oedd Cymry America yn siarad Cymraeg. Yr oedd eu parabl gystal, neu efallai'n well, na'i eiddo yntau. Y canu, yr adrodd, yr areithio, yn dda iawn, ac yn neilltuol Gymreigaidd. Pe ceiid y llygaid, braidd na thybid mai yng "Ngwalia Annwyl ' yr oedd yr Eisteddfod.

A pha ryfedd! Yr oedd goreuon Cymry yr Unol Daleithiau yno—rhai wedi teithio o leoedd pell, gannoedd o filltiroedd i gael clywed yr hen iaith a'i halawon unwaith eto.