Chwarddodd wrth feddwl y peth a fyddai Mr. John Jones, Haulier and Baritone, yn ei ddywedyd pan gaffai'r neges. "Good old D.Y!" ebe fe wrtho'i hun. "Un o'r goreuon, drwy'r cwbwl—cyfaill yn wir!"
Ar hyn neidiodd Daff allan o'i wely, canys dyna'r pryd y cofiodd am y "present" yr oedd D.Y. wedi ei estyn iddo mewn amlen ddechreu'r nos. Wedi ail—gynneu'r goleu, aeth i logell ei gôt, agorodd yr amlen yn frysiog, ac yn ei law yr oedd note am ugain doler!
Safodd am beth amser mewn hanner breuddwyd, yna trodd at erchwyn ei wely, penliniodd yno, a diolchodd i Dad y Trugareddau am roddi iddo adnabod D.Y. Bore trannoeth aeth i'r Depôt i hebrwng bechgyn y côr oedd â'u hwynebau bellach ar New York—a Chymru. Mor llon yr ceddynt! mor uchel eu hasbri! Ac O, mor drwm ei galon yntau! Ysgydwyd dwylo unwaith eto, canodd y gloch, chwibanodd y peiriant, chwifiwyd cadach nau ddau, ac yr oedd Daff wrtho ei hun.
Treuliwyd y prynhawn ganddo i edrych o gylch y ddinas fawr, a phrynu rhai mân bethau y credai y byddai eu heisiau arno yn ôl llaw. Cyn machlud haul cychwynnodd ei drên allan o'r Depôt yn brydlon, ac am nad oedd y ffordd haearn hon ond newydd ei hagor, a bod y perchenogion am ennill enw da iddi, teithiwyd yn hwylus heibio i foroedd gwenith y paith llydan, a deuthpwyd i'r arhosfan yn Winnipeg o fewn pum munud i'r amser a arfaethasid.
Yn ystod arafiad graddol y trên o fewn cylch y stesion, syllai Daff yn graff ar y bobl a oedd yn disgwyl y teithwyr er gweled a oedd yno rywun yn edrych amdano ef. Na, neb! Wedi ei ddisgyn, fe gerddodd deirgwaith o un pen i'r stesion i'r llall i'r un pwrpas, ac unwaith mentrodd ofyn i ŵr yn ei ymyl ai ef ydoedd Mr. William Owen.
"I guess not," ebe hwnnw, "else how could I be Jake Carter at the same time?
Nid oedd dim i'w wneuthur bellach ond mynd i chwilio am ei frawd yn y Third Block, lle yr oedd y