Tudalen:Daffr Owen.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyfeiriad a roddwyd yn y llythyr. Gosododd ei eiddo, druan o Daff! nid oedd ganddo lawer i gyd, yn y swyddfa ac aeth allan i'r dref; ac wedi cryn drafferth, gwelodd uwchben siop yno yr enw "Wm. Owen and Co., Dry Goods Store."

Bydd popeth yn iawn yn y man," ebe fe wrtho ei hun. Rhaid mai prysur neilltuol oedd ef gyda'i fusnes i fethu dod i'm cyfarfod."

Ar hyn aeth i mewn i'r stôr, ond nid oedd pethau yn neilltuol o fywiog yno ar y pryd. Safai dyn ieuanc y tu cefn i ddesg y pen pellaf o'i ystafell hir, ac aeth Daff ar ei union tuag ato, ac a ofynnodd am weld Mr. Owen.

Yr ateb cyntaf a gafodd oedd edrychiad hynod o gas, fel pe bai ei ofyniad diniwed a naturiol yn gofyn am hynny.

Yna, wedi cryn dipyn o holi o du y gŵr ieuanc, ac ateb o du Daff am ei gysylltiad â Mr. Wm. Owen, a'i neges bresennol ato, gofynnwyd i'r Cymro ddilyn ei holydd i ystafell y tu ôl i'r ystôr.

Wedi agor y drws archwyd i Ddaff fyned i mewn, ac yno yr oedd gwraig dal, lygadfyw, wedi ei gwisgo yn ei du, yn eistedd o'i flaen.

Cyfarchodd ef hi yn foesgar, ond hithau, yn llwyr anwybyddu ei gyfarchiad siriol, a'i holodd yn llym am ei fusnes â'i diweddar ŵr.

Diweddar! Aeth y gair fel saeth i galon y Cymro. Yna y clybu Daff am farwolaeth ei frawd fis cyn hynny, a thrymed oedd yr ergyd iddo fel y methodd an ennyd yngan gair.

Ond yn y cyfamser, llygadai y wraig ef yn llym, a chlybu Daff, fel pe mewn breuddwyd, hyhi nid yn unig yn gwadu na sgrifennodd ei gŵr i'r Pentre erioed, ond hefyd nad oedd iddo frawd o gwbl.

Ac am hynny dangoswyd iddo'r drws fel honnwr celwyddog a chwenychai ei wthio ei hun i safle yn yr ystôr drwy eofndra digywilydd.

Teimlodd Daff y ddaear yn ymollwng odditano, ac onibai na fynnai ddangos ei wendid, gorff ac ysbryd,