Yna yr eglurwyd iddo mai ystordy blawd mawr ydoedd ger y stesion, ac er nad oedd yn lle pleserus i weithio ynddo, ei fod yn well na dim.
Cofiodd Daff iddo dreio hwnnw ddeuddydd yn ôl, ac iddo gael ateb mwy angharedig nag arfer gan un o'r gyrwyr yno.
Treia di hi eto," ebe'r llall. "Meddwl oedd y gyrwr mai gwaith fel yr eiddo ef yr oeddet am ei gael. Cerdda di y tro nesaf drwy y drws mawr, ac mi fentraf na wrthodir mohonot yno. O, na! 'does dim gwrthod yno! Wyddost di Ffrensh, Gymro bach?"
Rhyfeddodd Daff na buasai wedi clywed am y lle hwn o'r blaen, a phenderfynodd fynd drwy'r drws mawr drannoeth, deued a ddel. Gwell unrhyw beth na rhynnu a newynu, a gwario'r cent olaf. "Ond paham y gofynnodd Greasy Jarge imi os gwyddwn Ffrensh, ys gwn i?"
Daff bach! pe gwypit mai talfyriad o "La Derniére Ressource" oedd yr enw, ac mai ystyr hwnnw oedd "y noddfa olaf," ti gawsit ryw syniad o ansawdd y gwaith.
Fodd bynnag am hynny, aeth Daff i fyny i'r lle drannoeth, ffeindiodd y drws mawr, ac aeth i mewn drwyddo. Ar ei fyned heibio clywodd lais i'w aswy yn gweiddi "Here's another!"
Credodd ar y pryd mai gair ynglŷn â'r gorchwyl mewn llaw ydoedd y waedd, ond gwybu'n well yn nes ymlaen.
Gofynnodd am waith i ŵr tal a ddaeth i'w gyfarfod, a chafodd waith ar unwaith, a thelerau'r gwaith yn ogystal. Cymerwyd ef i mewn i ystafell fawr arall, tywyllach o lawer na'r gyntaf. Yn hon yr oedd i gario hyn a hyn o sachau llawnion bob dydd a'u gosod yn rhestri hirion, trefnus wrth y pared, neu i'w cario oddiyno, fel y byddai'r galw.
"You can buck to, instanter, on this pile," ebe'r gŵr tal wrtho. "Twenty to the hour will be nothing to a strapper like you."
Byddai gosod un sach yn ei lle mewn tair munud yn gymharol hawdd pe na bai ond un i'w thrafod.