Tudalen:Daffr Owen.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XXVII. TUA'R GORLLEWIN

WEDI i'r dwyrain wrido ychydig, ac i'r haul ddechreu taflu ei belydr dros y nefoedd tuag ato, cododd Daff yn ei eistedd i edrych o'i ddeutu. Yn ôl cyn belled ag y canfyddai ei lygaid, gwelai y ffordd haearn yn disgleinio am filltiroedd gan hollti'r paith fel â rhimyn arian. Dyna'r ffordd y deuthai ef drosti yn oriau'r nos. Nid oedd ganddo syniad clir am y milltiroedd a enillodd fel "hobo," ond rhaid eu bod yn llawer. am nad arhosodd y trên yn unman rhwng y tanc a'i daflu ef allan.

Fodd bynnag am hynny, rhaid ei fod bellach yn nesu at y Rockies, oblegid gwelai rhyngddo a'r gorllewin, fynyddoedd—rhes ar ôl rhes—yn codi fel grisiau i'r nefoedd. Ar y foment y syllodd arnynt gyntaf, daliodd pelydr o'r dwyrain y corunau uchaf, ac ar amrantiad wele r eira tragwyddol yn gweddnewid i'r aur pryd— ferthaf. Cymerodd Daff y cyfnewidiad fel arwydd. o obaith, ac ebe fe.—"Hwnt i'r rhain mae'r wlad i mi." Ac er y gwyddai fod gwaethaf y daith yn ôl, ni ddaeth i'w feddwl ddychwelyd i fyd y paith. British Columbia neu ddim! Ac felly dechreuodd droedio'r ffordd haearn i'r gorllewin, gyda'i wyneb ar y mynyddoedd, yr eira, a'r aur.

Penderfynodd ddal i gerdded yn weddol araf rhag lluddedu ohono yn ormodol, na phothelli o'i draed. Yr oedd deubeth, o leiaf, yn ffafriol i'w gerdded, sef mwynder yr hin ar y pryd a llawnder ei logellau yntau o ymborth. Barnai fod ganddo ddigon o fwyd i barhau, gyda gofal, am chwe diwrnod, ac er bod peth ohono wedi briwsioni erbyn hyn, nid llai rhinwedd y briwsion nag eiddo'r dafell.

Yn y modd hwn aeth rhag ei flaen gan deithio'r ffordd haearn y dydd a chysgu mewn rhyw gilfach y nos. Pasiodd llawer trên ef yn ystod yr amser hwn, ond teithiai bob un yn rhy gyflym iddo afaelyd ynddo. Cipolwg ar ddynion yn syllu'n syn ar yr