"hobo" unig, ac olwynion fel pe yn chwyrnu arno wrth fynd heibio, oedd yr argraff fwyaf a gawsai ar ôl pob trên.
Un noson pan yn llechu i orffwys o dan wreiddiau hen foncyff a ddymchwelwyd rywbryd gan ystorm odid, clywodd udiad blaidd o gyfeiriad y mynyddoedd. Parodd hynny iddo feddwl am beryglon heblaw lludded a newyn; ac nid hyfryd oedd y syniad i lanc diarfog ddyfod o ddamwain ar draws bwystfil rheibus o ryw fath. Ond rhaid oedd teithio yn y blaen, ac erbyn hyn dechreuai y mynyddoedd coediog daflu eu cysgodion dros y ffordd haearn, a chyn hir deuthpwyd i dwnel, annhebig i ddim a welsai Daff o'r blaen. Ffurfiai y graig naturiol un ochr iddo, ac o uchter o ddeunaw i ugain troedfedd estynai tô cadarn o goed allan dros y ffordd haearn. Cynhelid hwn i fyny drachefn ar yr ochr bellaf oddiwrth y graig gan bileri praff o goed hefyd.
Hwn ydoedd un o'r snowsheds y clywsai amdanynt gan yr "hobo" ar y fferm. Ei phwrpas amlwg oedd cadw'r ffordd haearn yn glir oddiwrth eira neu unrhyw beth arall a ddanfonai'r gaeaf i waered o'r llethrau uwchben. Cerddodd Daff drwy amryw o'r rhai hyn y diwrnod hwnnw, ac er bod un ochr i'r sied, sef yr un bellaf oddiwrth y graig, yn weddol agored oddieithr am y pileri, eto gwell gan y teithiwr ydoedd yr awyr agored. Yn y sied teimlai ei unigrwydd yn fwy, a gwnâi pob sŵn (oherwydd y gwacter o dan y tô), yn seithwaith mwy nag yr ydoedd mewn gwirionedd. Oerach o gryn raddau hefyd oedd y lle, a gwaeth na'r cwbl tybiai y llanc yn awr ac yn y man fod rhywun yn sisial o'r tu ôl iddo pan chwibanai'r gwynt rhwng y pileri.
Bid sicr, nid oedd yno neb, ond fel y troediai'r bachgen blinderog drwy sied ar ôl sied, clywai ei galon yn ymollwng gan ei bryderon a'i ofnau.