Tudalen:Daffr Owen.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Rheolau'n wir!" ebe'r un gŵr yn ddistaw. "Llestri pridd, goelia i!"

Ar hyn aeth Samaritan y ffyrdd haearn gyda'i gyd-swyddogion am ennyd i dywyllwch y sied. Cyfododd Daff, ac wedi dau neu dri chynnig, llwyddodd i ddringo i un o'r vans, a gorweddodd yno i lawr. O! mor flinedig ond eto a mawl a gweddi yn llond ei galon! Nid oedd rhagor o eirth yn y sied, mae'n debygol, oblegid y foment y llwyddodd Daff i ddringo i'r van, daeth y swyddogion yn ôl, ac ail—gychwynnodd y trên i'w daith.

Ymhen rhyw hanner awr, a Daff rhwng cwsg a dihun yn nhywyllwch y van, fflachiodd goleuni lamp i mewn, a chlybuwyd trwst traed dyn yn cerdded yn ôl a blaen fel pe yn chwilio'n ddyfal am rywbeth. Daeth y chwiliwr unwaith i'r gongl lle yr oedd Daff yn gorwedd, ond methiant mawr fu y chwilio dyfal, oblegid heblaw na chafodd yr hyn a geisiai fe gollodd rywbeth yno hefyd. Digwyddodd hynny yn ymyl wyneb y llanc, a phan estynnodd hwnnw ei law allan, wele, yr oedd yno lestr alcan bychan wedi ei adael ar ôl. Twym hefyd oedd y llestr ac yn arogli'n gryf o dê chwaethus. Profodd y llanc blin y tê yn gyntaf, ac yna yfodd ef i gyd. Wedi hynny fe syrthiodd i drymgwsg, ac ni wybu ragor amdano'i hun, hyd nes yr oedd haul diwrnod arall yn taflu ei belydrau ato drwy agen uwchben drws y van.

Ar ei ddihuno, gwelodd yn ei ymyl y llestr tê, ac o hynny fe gofiai am y diwrnod blaenorol, am hunllef y bont ac enbydrwydd yr arth. Ha! ychydig a feddyliasai ef gynt y byddai i'w fedr yn dringo coed Cwmdŵr y pryd hwnnw arbed ei fywyd yn y Rockies ymhen blynyddoedd! Yna fe wenodd mewn boddhad am y swyddogion a aeth i chwilio am yr eirth, ac yn enwedig am arwr y llestri pridd. Diolchodd i Dduw am yr arbed ac am ddanfon dynion i'w lwybr a gyfrifai fod gweithredu yn ysbryd y Crist yn sefyll yn uwch na chadw at lythyren unrhyw reol ddynol a wnaed erioed. Nes ymlaen yn y dydd safodd Daff ar ei draed yn y van, a thrwy'r agen uwchben y drws syllodd