allan ar wlad eang, fras, ddyfradwy, a oedd yn gwenu ymhlith ei pherllannoedd. "British Columbia, gwlad yr heulwen!" ebe fe. Dyma hi, ac yn llawn y gair a ddywedwyd amdani!"
Ac yntau yn y teimlad hwn, arhosodd y trên mewn man unig. Agorwyd drws ei van yn dawel, ac ebe llais distaw o rywle,—"Hei! y chi sydd i mewn yna, gwrandewch! Amhosibl yw i ni'ch cario ymhellach. Neidiwch i lawr yn y fan hon. Y mae pentre oddeutu milltir yn nes ymlaen ar eich cyfer. Lwc dda! Hobo! a pheidiwch ag ymyrraeth ag eirth mwy. Gormod o dasg, yn wir. Ffarwel!
Neidiodd Daff i lawr ac edrychodd am berchen y llais. Ond nid oedd neb yn y golwg, ac am hynny fe ddiosgodd ei benwisg yn foesgar i'r wlad newydd yn gyffredinol, gan obeithio bod arwr y llestri pridd yn ei weld. Yna aeth i'r pentref a oedd ar ei gyfer.
XXX. FRAZER'S HOPE
Ac yntau'n cerdded yn araf yr heol i gyfeiriad y pentref na wyddai ei enw, daeth i'w gyfarfod eneth wridog, hawddgar, a phenderfynodd ofyn iddi gwestiwn neu ddau parthed y wlad a'r pentref, ac i'r perwyl hynny arafodd ei gam ychydig ar ei neshad, a chan godi ei gap yn foesgar, ebe fe wrthi,—
"Will you kindly inform me, miss, what village this is? gan bwyntio at y tai yn y pellter.
"It is called Frazer's Hope," ebe hithau.
Quite a good name, too, whoever Frazer might have been, eb yntau.
"They say that he was the first to cross the Rockies just here," eb hithau'n ychwanegol.
"Thank you!" eb yntau eto. "And if Frazer was the first, I think I can claim to be the latest."
Ar hyn edrychodd yr eneth yn fanwl ar ei wisg, a phan welodd fod ei draed allan drwy ei esgidiau, a bod y tyllau o gylch ei benliniau yn dangos y