Tudalen:Daffr Owen.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Mrs. Jones, this is Mr. Owen who came here yesterday afternoon!"

Trodd Daff i gydnabod y cyflwyniad, ac yr oedd ar ei fin rywbeth arferol i'w ddywedyd, pan dorrodd yr hen wraig ar bob rheol ac arferiad, a chan gydio yn ei ddwy ysgwydd fe'i cusanodd gan ddywedyd,— "O! machan mawr i! ma' nhw wedi gweud y cwbwl wrtho i amdanoch chi. Diolch i Dduw! 'weta i!" Ac ar hyn llifodd deigryn gloyw dros ei grudd, deigryn y Gymraes oddicartref.

Ni wyddai Daff yn iawn beth i'w wneuthur na pha beth i'w ddywedyd ar y cyntaf, ond llwyddodd i yngan rywfodd,— Ia'n wir, Mrs. Jones. Diolch i Dduw! ac i chitha i gyd!

Ar hyn eisteddodd pobun i lawr, a dechreuwyd siarad yn gyffredinol, a holi ac ateb, yn neilltuol am yr hen wlad."

"Fuoch chi yrioed ym Merthyr a Dowlesh, machan

"Naddo! ddim yn Nowlais, ond fe fuo ddwywaith ym Merthyr, unwaith pan yn mynd o Shir Frychinog i'r gwaith glo yn y Rhondda, a phryd arall ar y ffordd i gonsart ein côr ni yn Aberhonddu."

"Rwy'n gweld mai coliar o'ech chi. Ble buoch chi'n torri glo?

"Yn Lefel yr Ocean, wrth Bentra'r Ystrad yn y Rhondda."

"Pwy gôr o'ech chi'n perthyn iddo? A sôn am gôr—Côr Dowlesh amsar o'wn i'n ferch ifanc!"

"Do'wn i ddim yn canu yng nghôr y Pentra, chwaith. Helpu'r ysgrifennydd oeddwn i."

"Cato'n pawb! Dyna'r côr enillws yn Chicago!"

Ia, a gyda nhw y detho i i 'Merica."

Sefwch chi, 'ro'dd hynny'r haf dwetha. Fel'ny chi 'rhosoch chi yn America pan 'ethon nhw'n nôl."

"Ia, dyna fel y bu. Ro'dd gen i frawd—hanner brawd yn Winnipeg, ac fe ofynnodd e' i fi ddod mâs ato fe idd 'i helpu yn y Stores, ond erbyn i fi gyrra'dd yno, 'roedd e' wedi marw, a'i witw, am ryw reswm