Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

GAIR O EGLURHAD.

AT Y SAWL Y PERTHYN IDDYNT WYBOD.

GYDA chryn betrusder y cydsyniais â nifer lluosog o geisiadau o wahanol gyfeiriadau i roi ffurf mwy parhaol i Adgofion Dafydd Dafis nag oedd yn ddichonadwy yn ngholofnau papur newydd. Gwir ddarfod imi gael llu o brofion pan ymddangosodd yr erthyglau gyntaf, fod Dafydd a Claudia yn bersonau tra phoblogaidd yn mhob rhan o'r Dywysogaeth, ac yn mhlith pob dosbarth o gymdeithas; eithr priodolwn y poblogrwydd hwnw i raddau helaeth i ddyddordeb amserol y materion a drinid gan y Llaethwr a'i Briod, ac ofnwn nas gellid disgwyl i'r poblogrwydd barhau wedi i ddyddordeb uniongyrchol yr amgylchiadau a ddesgrifid basio. Eithr sicrheid fi yn wahanol, a bod i Dafydd a Claudia swyddogaeth uwch a mwy parhaol na difyru darllenwyr papur newydd dros enyd awr.

Ysgrifenwyd yr erthyglau gwreiddiol yn aml yn frysiog yn nghanol prysurdeb galwedigaethol; llawer o honynt pan oeddwn dan gystudd trwm; rhai o honynt pan nas gallwn eistedd i ysgrifenu, ac y gorfodid fi felly i'w traddodi i law arall eu hysgrifenu yn ymyl fy nghlaf wely. Nodir y ffeithiau hyn yn awr yn benaf am y priodolid y pryd hwnw—ac eto—ran o leiaf o'r awduraeth i Aelodau Seneddol neillduol. Dymuna'r awdwr hysbysu mai efe, ac efe yn unig, oedd yn euog o'u cyhoeddi fel yr ymddangosasant gyntaf, ac na "ysbrydolwyd" hwynt gan neb arall. Eto gyda phob gwyleidd-dra