Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gan nas gallwn, heb chwyddo'r gwaith i faintioli direswm, fanylu cymaint ar ddigwyddiadau eleni a llynedd ag ar flynyddoedd cyntaf yr hanes, ceisiais wneud i fyny am y diffyg drwy gymhwyso y rhan fwyaf o'r Cartoons gwreiddiol at amgylchiadau y ddwy flynedd olaf.

Prin mae eisieu ychwanegu nad oes na gwenwyn na malais wedi symbylu ysgrifbin yr awdwr na phwyntil yr arlunwr. Ceisiodd y naill fel y llall roi y wedd ddifyr ar ddigwyddiadau bywyd cyhoeddus dynion cyhoeddus y genedl. Eithr gwnaed hyny mewn perffaith natur dda—ac nid gormod yw dweyd mai cyfeillion personol agosaf yr awdwr yw rhai o'r rhai a ymddangosant amlycaf yn y rhanau mwyaf difyr o'r gwaith. Eto, credaf fod gwersi buddiol i Gymru, i'w gwleidyddiaeth, ei chrefydd, a'i harferion cymdeithasol, yn gorwedd o dan yr holl ddifyrwch. Llawenychaf wrth weled fod y farn gyhoeddus, fel y'i cynrychiolir gan y Wasg Seisnig a Chymraeg, yn cymeryd yn ymarferol yr un olwg ar genhadaeth "Dafydd Dafis" ag a gymerir gan

Eich ufydd was,
YR AWDWR.

Mehefin, 1898.