Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

DAFYDD DAFIS.

—————↣✪❣✪↢—————

PENNOD I.

DECHREU'R HELYNT.

Y Wraig a minau—Eisio imi fynd yn A.S.—Dagrau a Llawenydd—Y wraig yw pen y gŵr—Ysgrifenu at Tom Ellis.

"David," ebe'r wraig yn sydyn, "Ei want iw tw get intw ddi hows!"[1]

Codais fy llygaid mewn syndod a phenbleth.

Gael i chwi gael deall, 'rwan, sut roedd pethau yn bod, mi roeddan ni'n dau, y wraig a minau, y prydnawn Llun Sulgwyn hwnw,[2] yn eistedd un bob tu i'r aelwyd fel byddan ni'n arfer a gwneud. 'Roedd Claudia'n pondro uwch ben rhywbeth 'roedd hi'n galw Mac Rami arno fo,— er nas gwn i pwy ar wymad daear oedd yr hen greadur

  1. Bernais yn ddoeth, wrth olygu yr Adgofion hyn i'w cyhoeddi, i ddilyn orgraff wreiddiol Dafydd Dafis ei hun. Eithr ni fydd nemawr anhawsder i'r Cymro ddarllen Saesneg yr awdwr, gan fod Dafydd yn sillebu ei Saesneg yn Gymraeg ac nid yn Saesneg. Darllener felly ei Saesneg fel petai Gymraeg, a daw'r sain yn gywir, a'r synwyr, wrth gwrs, yn canlyn.—GOL. YR HUNANGOFIANT.
  2. Gwel y darllenydd oddiwrth gynwys penodau canlynol mai at ddigwyddiadau'r flwyddyn 1893, hyny yw ail dymor Seneddol Gweinyddiaeth olaf Mr. Gladstone, y cyfeiria Dafydd Dafis yn nechreu ei adgofion gwleidyddol, a dug hwynt i lawr hyd yr amser presenol (1898).—GOL.