Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

—————————————

EIN HEN BENDEFIGAETH.

Yr ydym yn ddyledus i gyhoeddwyr yr "Egypto—Cymric Archaeologist". gwaith dwfnddysg gwerthfawr—am ganiatad caredig i gyhoeddi'r darluniau dyddorol uchod a'r crynhodeb a ganlyn o'r Eglurhadau arnynt a geir yn tudal. 217, Cyf ix., o'r gwaith rhagorol hwnw.

(a) Eileb o gerfiad ddarganfyddwyd yn ddiweddar ar hen gofgolofn Aiphtaidd. Barna dysgedigion ei bod yn dyddio oddeutu 1500 C.C. (cyfnod Rameses a Moussa.) Bernir oddiwrth debygrwydd gwynebpryd, &c., mai cerflun ydyw o un o hynafiaid yr Arglwydd PENRHYN presenol—pendefig Cymreig tra adnabyddus. Ceir yma brawf o hynafiaeth mawr y teulu urddasol hwnw, a chadarnhad o gyfeiriad barddonol Syr Lewis Morris at ei gydgenedl fel "hynafol bobl, dewr wrth raid." Yn agos ato cafwyd cerflun arall yn dwyn yr arwyddenw "Moussa"—ffurf dwyreiniol am "Moses," neu "Waredwr." Yn anffodus, drylliwyd hwn cyn tynu darlun cywir o hono, ond galluogir ni i ddweyd, oddiar yr awdurdod uchaf, nad oes gwir yn yr haeriad fod y cerflun hwnw yn debyg i wynebpryd y gŵr a adwaenir yn lleol wrth yr enw "Gladstone y Chwarelwyr"—ac heblaw hyny nid oedd y bibell fechan, "y cetyn," yn gysylltiedig a'r cerflun.

(b Arwyddair dealledig yn y wlad hon yn ogystal a'r Aipht. Troer i unrhyw Eiriadur da, a cheir :—

PENNANT, S. (Ffrancaeg, pennon; Lladin, pendeo), banerig, baner fechan. Golyga'r Lladin, pendeo, rhywbeth yn hongian neu grogi. [Dywed y Proff. Jno. Morris Jones, M.A., fod yr awdurdodau Celtaidd goreu yn awr yn gwrthod y ddysgeidiaeth Forienaidd sy'n olrhain tarddiad y gair o "pen—dant" the head of a tooth].

Felly ystyr yr Arwyddair yw banerig ysgafn a symudir gan yr awel. Gwelwyd un o honynt yn Nhŷ'r Cyffredin adeg y ddadl ar helynt y Penrhyn, ac ysgydwai ol a blaen o flaen anadl Mr. Wm. Jones, Oxford, tra y cynhyrfai yn aruthr dan effeithiau araeth John Burns.

—————————————