Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

draffarth; ac heibio'r plismyn a mi yn nghysgod Cynlas, fel pe bawn i'n feistar ar hanar y lle, neu'n Babydd yn mynd i'r nefoedd yn nghysgod Sant Pedr. Mi rodd Tom y tro yma mewn gwell tempar o lawar na'r tro'r blaen, ac yn dangos i mi'r peth hyn a'r peth arall fel pe baem yn i gartra fo yn Llandderfel.

"Wel, deydwch wrtha i, Mistar Ellis," ebra fi, " ble mae'r chwip gynoch? Mi rydw i'n dallt mai chwi fydd yn chwipio'r aelodau 'ma pan fydd eisio; ond mi ddyliwn na 'toes dim eisio heno, o leiaf tydw i ddim yn y'ch gwelad chwi'n handlo'r un chwip na gwialen 'ran hyny."

"O," medda fo, dan haner chwerthin, "mae llawer ffordd o chwipio hefyd, a mi fydda i'n chwipio hefo'r pen ac inc yn fwy na dim arall."

"Ie, ie," meddwn ina, "mi wn i hyny wrth gwrs. Mi fyddwch yn chwipio ambell dro mewn llythyr nes bo dyn yn gwingo. Mi wyr Esgob Llanelwy yn reit dda be 'di chwip felly. Ond nid chwipio felly fyddwch chi hefo'r aelodau chwaith?"

"Wel ie, go debyg. Rhaid bod ar 'u cefna nhw'n reit smart. Gwaith chwip ydi gofalu fod pob aelod fo'n perthyn i'w blaid o o fewn galw pan fo eisio. Mae'r Toris yma yn gwylied pob cyfle ga' nhw, a phe bae'n dynion ni adra, neu allan o gyrhaedd, mi fasa'n galad arno ni, a'n majority ni'n syrthio. Felly mi fyddwn ni chwips ar y lwc owt o hyd na cheith neb fynd oddiyma heb wybod i ni, ac heb bario hefo un o'r ochr arall."

"Wel be ydi pario hefyd, deydwch?"

O, pario ydi gneud cytundeb â rhyw un o'r ochor arall i bob un o'r ddau beidio cymyd rhan yn ngwaith y Tŷ dros yr amser y cytunir arno, gan nad beth ddaw fyny. Felly os bydd dyn wedi pario, fedar o os bydd o'n Dori, deydwch,