wybyddu anian, llygad i weled Duw, calon i deimlo Duw. Bardd natur, meddir, oedd Dafydd ap Gwilym. Nid ydym yn gwarafun iddo'r anrhydedd, a mawr yw ei glod am ei ddarluniau ffyddlon a'i syniadau pert. Ond mae'r natur a welodd ef bron mor ddi-Dduw a phe na buasai Duw yn ei gwisgo â gogoniant bob gwanwyn, a'i dad—wisgo bob hydref. Williams yw bardd cyfrin cyntaf ein cenedl. Mae llawer o ryw fath o gyfriniaeth yn y Mabinogion, cyfriniaeth cysgodion prudd muriau hen gestyll, cyfriniaeth byd agos ond cuddiedig; cartref llywodraeth hud, a phobl yn byw ar ei drothwy, gan ofni'n barhaus droseddu ei ddeddfau a dod o dan farn ei ledrith, nes troi bywyd yn fath o hapchwareu anonest, yn awydd i lwgrwobrwyo ffawd a darostwng anffawd. Nid rhyfedd i "Daith y Pererin gael y fath dderbyniad gan ein cenedl. Mae'r llyfr rhyfedd hwn yn ddigon o esgus hyd byth am barchu cyfriniaeth farddonol a chrefyddol. Trodd hedfa enaid fel llwybr troed,—yn gadael dinas distryw, yn ymdrechu yng nghors anobaith, yn teithio tir Beulah, ac yn cyrraedd y nefol wlad. Cyfriniaeth foesol yw "Llyfr y Tri Aderyn," cyfriniaeth ysbrydol yw "Taith y Pererin."