o Drefydd a thair o Drefydd Caerog; ac nid oes yno ddim ond llyn o ddwr diwaelod. Ellis Roberts.
2. Ymddiddan bob yn ail penill ar Loath to Depart fyrraf. Ellis Roberts.
Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1783."
(Caneuon Cymreig 1767—1870. Amgueddfa Brydeinig).
44. Tair o Gerddi Newyddion.
1. Ymddiddan rhwng Gwr Ifangc a'i Gariad bob yn ail Odl. Lyseni Meistres. (25 penill).
2. Cwynfan Merch Ifangc (7 penill).
3. Canu ar Belile March o glod i'r Lord Pased or Plas Newydd yn Sir Fon am ei haelioni i'r Tylodion.
Ellis Roberts a ganodd y Tair.
Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1783."
(Caneuon Cymreig 1767—1870. Amgueddfa Brydeinig).
"Lord Pased" meddai'r Cowper am Arglwydd y Plas Newydd, a gall mai hon oedd arfer ei oes o swnio'r enw. Mae'r gân hon loewach na'r arferol o'i ganeuon. Wele ei llinellau agoriadol,—
"Cenwch ganodd mawl a miloedd
Yn lluoedd ymhob lle,
O glod i hynod eurglod
Arglwydd Dawn ufudd dan y Ne', &c."