Ymhen y ddwy flynedd y daeth "Y Credadyn Bucheddol i Gymru." Ond pan y daeth yr oedd yn llyfr wyth plyg o 414 o dudalennau, wedi ei argraffu yn well na mwyafrif llyfrau Cymraeg yr amser hwnnw. Cywirwyd y wasg gan Ieuan Brydydd Hir a Rhisiart Morys. Hyd y cefais allan, nid oedd un cysylltiad rhwng Dafydd Jones a'r Credadyn hwn, namyn y bwriadai ei werthu wedi dyfod o hono i'r wlad.
Oddiwrth hysbysiad a geir ar ddiwedd Dwy o Gerddi, a gyhoeddwyd yn 1779, bwriadodd gyhoeddi Gramadeg, a alwai yn Ramadeg o waith Beirdd,—
"I mae genyf Ewyllus i osod Gramer o waith Beirdd mewn Print. I mae genyf 7 neu 8 o Gopiau rhwng Print ag ysgrifen. Mi wyf D. J. o Drefriw."
Traethodydd, 1886, t.d. 415.
Beth olygir wrth 7 neu 8 o Gopiau Gramer o waith Beirdd, anhawdd dirnad. I mi, dirgelwch anirnadwy yw'r syniad o Ddewi Fardd yn cyhoeddi gramadeg, ac yntau, druan, yn newid ei orgraff a'i gystrawen yn amlach na phob llyfr a gyhoeddai. Mae'r dyfyniad uchod yn