dwyn y gywydd drachefn i fri. Ar wahan i werth ei farddoniaeth, mae Goronwy yn deilwng o safle uchel, pe ond am hyn o waith a gwasanaeth llenyddol. Bu'r ddwy gymdeithas lengarol, Cymdeithas y Cymrodorion a Chymdeithas y Gwyneddogion, a sefydlwyd yn Llundain yn rhan olaf y ddeunawfed ganrif, yn foddion i gadw'n fyw yr un ysbryd, ond nid i fagu cymaint ag un bardd. Tebyg mai'r eisteddfod roddodd fri ar yr englyn a'r awdl. Anffawd ein barddoniaeth ddiweddar yw'r afrifed englynion. Anhawsder i feirdd ac anffawd i farddoniaeth fu rhoddi cymaint pwys ar y pedwar mesur ar hugain, gorfodi dynion i ganu ar fesurau na fedrent fawr gamp arnynt; eu gosod mewn hualau mesur a chynghanedd, nes poeni eu hysbryd a diffodd eu gwres. Pa fodd bynnag, ganwyd y ffasiwn, rhwymwyd hi mewn cadachau hen, a rhaid fu ei dilyn. Tarawodd Ceiriog, ac eraill o'i gydoeswyr, y tant gwladgarol, gwladgarwch radicalaidd, gwahanol i wladgarwch ceidwadol yr hen feirdd. Gwedd ar yr un deffroad gwladgarol a effeithiodd ar syniadau gwleidyddol y genedl-cenedl amlwg yn ei thueddiadau ceidwadol. A ffrwyth yr un
Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/17
Gwedd