Sion. Ni welsom gofnodiad ei farwolaeth ef. Galwodd ei fachgen cyntaf wedi'r pedair merch drachefn yn Sion. Er ei hoffder o'r enw, enw anffodus fu yn hanes ei deulu, oherwydd yn un o'r hen ysgriflyfrau ceir y cofnodiad prudd a ganlyn,—
"Hydref 19 neu'r hen gyfrif o'r mis 8 i clwyfodd Sion Dafydd o'r frechwen ac a bar—haodd hyd y 29 neu 18, o'r hon y bu farw ac a gladdwyd Nos Galan Gaia y 31 1762. 8 oed oedd ef."
Hefyd,—
"Fe ddigwyddodd i Sian ei chwaer freuddwydio, Nos Fawrth 22 o fis Mawrth yn y flwydyn 1763 weled ar fedd Sionyn Dafydd dri blodyn Lili wrth eu gilydd megis yn rhes a hi a welodd yno hefyd fwysi arall o ddail a elwir Blodau'r Gwr Ifainc."[1]
Na feier hyn o ofergoeledd, mae hiraeth o hyd yn coelio ambell freuddwyd. Ac mae rhai o enwogion Cymru heddyw yn cael eu swyno gan bethau oferach na "thri blodyn lili" yn tyfu ar fedd bachgen wyth oed a gladdwyd bum mis yn flaenorol.
- ↑ Amgueddfa Brydeinig MSS. 17973, t.d. 20.