Casgliad cyffelyb yw'r datganiad amheus am ei gymeriad moesol—ei fod yn hoff o gwmni Syr John Heidden. Hwn yw'r cymeriad roddodd llenorion y ganrif ddiweddaf i Elis Roberts y Cowper; a oedd y cymeriad a ffurfiodd y Cowper iddo ei hun waethed a'r un ffurfiwyd iddo gan eraill sydd amheus. Amcanai yn ei epistolau rhyfedd wneyd daioni, a dylasai geisio byw y daioni a amcanai i eraill fyw.
Ni welais un crybwylliad yng ngweithiau neb o'i gydoeswyr fod Dafydd Jones yn feddwyn cellweirus. Yr oedd Goronwy, Ieuan, ac eraill, yn euog o hyn. A chafodd eu brodyr lawer o flas ar edliw iddynt eu pechodau, onid e gallasent fod brinnach yn y gwaith o ddannod. Os cawsant flas ar ddannod y bai hwn i'r goreugwyr, pa achos tewi gawsant yn Nafydd Sion? Sonnir am ei dlodi gan Ieuan Brydydd Hir, ond yn dyner a pharchus; galwyd ef yn Fardd y Blawd gan Oronwy; trwyn surodd rhywrai wrtho, a galwodd Lewis Morris ef yn "ffwl." A phe yn euog o feddwi, diau y buasai'r yswain o Geredigion wedi ei gyfenwi'n "ffwl meddw." Mae'r cyhuddiad hwn yn neilltuol anghyson â'r lle roddodd i ddarnau dirwestol yn ei lyfrau.