Prawfddarllenwyd y dudalen hon
BEN FAWR
Ar ei dŵr yn ninas Llundain,
Gwylia'r byd yn mynd i'w daith,
Torri'r misoedd a'r blynyddoedd
Yn eiliadau yw ei waith.
Brenin ydyw ar bob awrlais
A phob oriawr yn y tir,
Diystyra bob celwyddau
Wrth barhau i ddweud y gwir.
Os nad ydyw'r haul ac yntau
Yn cyd-symud mor gytún,
Teithiant bellach yn rhy araf
I osgoi camwri dyn.
Ac er bod yn Llundain boblog,
Enfyn ef a'i glochlais trwm
Air amserol drwy y radio
I fythynnod pella'r cwm.
Pob gwahaniaeth a symudir,
Ar oraclau rhoddir taw;
Troir dalennau brith ein hanes
Pan yw Ben yn taro naw.