Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dail y Dderwen.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I HAF GWLYB

Haf di-ail am ei lawogydd,
Haf a'i wên yn llai na'i wg,
Hir y cofir ei lifogydd
A'i ddiobaith dywydd drwg:
Dyma haf y flwyddyn hon.

Os dôi heulwen i gynhesu
A rhoi gobaith yn lle siom,
Yr oedd cwmwl du yn nesu
Heb ymdroi, a chawod drom,
Fel pe na bai haf yn bod.

Cawsom wanwyn braf i'n denu
Drwy bob cwm yn ôl ei droed,
Gwnaeth i flodau'r maes rodresu,
A rhoes ddail ar noethni'r coed,
Cyn i'r haf eu madru hwy.

Pam y daeth i'r holl ddaioni
Gyda chilwg ar ei ael?
Pam y mynnodd afradloni
Perlau teg wythnosau hael?
Rhyfedd a di-dostur haf!

Ni bu Natur yn anghofus
Wrth fendigo cnydau bro,
Yntau'n trampio mor ddigofus
Drwy'r bendithion yn ei dro,
Gan eu damsang ar bob llaw.