Prawfddarllenwyd y dudalen hon
YR ANGLADD
Yn llesmair prudd-felys y canu
Am "fryniau Caersalem" a'u hedd
Diolchais i'r dorf am wahanu
A'm gadael fy hun wrth y bedd.
Arhosais mewn tristwch i wylo
A syllu ar blat y gist wen.
Daeth rhywun â rhaw yn ei ddwylo
A gwelais fod popeth ar ben.
Wynebais ar fyd o dreialon
A bywyd o siom di-fwynhad;
'R oedd pobman mor wag ond fy nghalon
A'r bedd lle dodesid fy nhad.
A chanu prudd-felys y dyrfa
Yn aros o hyd ar fy nghlyw
Diolchais fod" troeon yr yrfa"
Yn gorffen yng ngysgod yr yw.