Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dail y Dderwen.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HAELIONI

Mae'r Tad sydd yn y nefoedd
A'i gyfoeth fyth yn hael,
Er gwario ei oludoedd
Ar bethau digon gwael;
Rhydd aur ar dwyn eithinog
Ac arian ar y drain,
Rhydd got o fwr i'r llwynog,
O sidan du i'r brain.