Prawfddarllenwyd y dudalen hon
CILFACH A GLAN
Aneirif lu'r ystorm yn cynddeiriogi
Fel cad ddibetrus yn erchylltra'r drin,
Pob gallu beiddgar wedi llwyr arfogi
I ruthro allan i'r anhydrin hin.
Cymylau chwyrn yn glawio wrth fynd heibio
A'r corwynt yn eu gyrru dros y wlad
Fel nad oedd hafn yn unman heb ei reibio
Pan gerddodd gwawr osgeiddig i'w hystad.
Mewn bwthyn tlawd 'r ôl llafur oes a'i heldrin
'R oedd enaid mawr yn dod a'r gŵys i'r pen,
Heb wybod am wallgofrwydd nos a'i drycin,
Nac am y rhuthro gwyllt ar lwybrau'r nen,
Aeth tua'r wlad lle taria hirddydd braf
A'r gaeaf yn ei hebrwng ef i'w haf.