breins. Wnewch chi ddim ohoni heb freins.
JAC.—Paid â sôn am freins, da ti; does dim breins cath gyda ti, ne' pam na wnei di iwsio tipyn ohono yn yr ysgol. Fe wyddost fod mistir yn dweyd yn amal nad oes dim yn dy ben di, ac mai torri cerrig ar y ffordd y byddi di yn y diwedd.
WIL.—Fe sydd yn dweyd hynny, a 'dyw my lord ddim yn Hollwybodol. Peth arall, nid breins sydd eisie i gyd yn yr ysgol, ond co', co' da, a phe bae gen i cyn lleied o freins ag sy gen i o gof mi fydda ar ben arna i yn y byd hwn. Fedra i ddim cofio dêts hen frenhinoedd a rhyfeloedd, a phryd 'nillodd Napolion y Waterlŵ.
TOM.—Ha! Ha! dyna hi eto, nid Napolion 'nillodd Waterlŵ.
WIL.—Pwy 'te? Ti, debig gen i! Fedri di ddim ynnill gêm o farblis heb sôn am Waterlŵ. Dweyd 'rwy i na fedra i ddim cofio dêts a phethe felly, ond