Prawfddarllenwyd y dudalen hon
y peth wrth neb, ne fydd dim diwedd ar y stori.
(Daw LIS Pantglas a PEG Pendre i mewn trwy'r drws ar y dde, gan eistedd ar y fainc gyferbyn a'r bechgyn).
LIS.—Fuodd lleidyr yn y'ch tŷ chi neithiwr, bois?
JAC.—Lleidyr! Oes arian ar goll? Rhyfedd fel ma' lladron yn gwybod lle ma' arian. Dim perig iddi nhw ddod i'n tŷ ni.
LIS.—Na, nid arian sydd wedi 'u colli.
TOM.—Beth 'te? Oes un o'r ceffyle wedi mynd?
LIS.—Nac oes, ond ma nythod o wye wedi mynd.
JAC.—Ffiw! wye! Llygoden ffrengig, ne' ryw gi, ma'n debig. In fact ma acw ecspert o gi ar y job, ond ma fe yn cael ei gadw i mewn yn y nos.
LIS.—Na, mae gen 'i ofan ma ci dau droed fu acw. Yr oedd mam wedi rhoi dwsin o wye tan un o'r ieir ddoe, ac erbyn y bore 'roedd yr wye wedi mynd bob