Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dal y Lleidr (drama).djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PEG.— Wel watsiwch chi'r nythod, bois bach, rhag ofn y daw y lleidyr heibio i chithe.

JAC.—Wel, os daw e' i'n tŷ ni, pils plwm ac nid wye gaiff e' os digwydd i nhad ei weld, oblegid ma fe yn saethwr heb ei ail. Fydd 'na ddim brân byth yn meddwl am ddisgyn o fewn milltir i'n tŷ ni.

LIS.—Wel, ma'n well gen i gwmni brain na lladron. Tyrd am dro bach, Peg.

(Y ddwy yn myned allan trwy'r drws ar y dde).

TOM.—Pwy yw yr eg myrtsiant newydd 'ma, tybed?

JAC.—Ma'n anodd dweyd, achan, ond mae yn sicr o fod yn pëing job, oblegid ma'r wye yn ddwy geiniog yr un. Diain i, hidiwn i ddim agor bisnes fy hun, oblegid ma hi yn broffit i gyd. Pe bawn i ddim ond cael dwsin bob nos dyna iti ddau swllt o broffit.

TOM.—Wyddost ti be, Jac, ma fe wedi taro i meddwl i 'rwan, tybed ai felly ma Wil Dolwen yn gwneud i arian. 'Roedd e'n dweyd bod eisie breins i wneud