JAC.—'Roedd e'n dweyd wrth Tom a finne gynne mai iwsio'i freins oedd e'.
DAI.—Wel, ma'n rhaid nad oes dim breins yn ein teulu ni 'te, ne does neb ohonom yn gwybod y ffordd i'w iwsio, oblegid does neb acw wedi gwneud arian nac yn debig o neud chwaith. Ond ma'n rhaid dweyd hyn am Wil, os oes gydag e' freins i neud arian ma' gyda fe galon i'w gwario nhw hefyd.
TOM.—Lle gwelist ti fe heddyw?
DAI.—Ma' fe lawr ar lan yr afon yn ei mygu hi'n braf. Fe ddaw yn ei ol yn fuan.
JAC.—Odi dy fam ddim wedi colli wye yn ddiweddar, Dai?
DAI.—Colli wye! Pam, wyt ti wedi ffindio rhai ar y ffordd.
JAC.—Taw, y ffwl, glywaist ti sôn am rywun yn cael wye ar y ffordd erioed?
DAI. Wel naddo, ond dy glywed ti yn gofyn cwestiwn mor ddwl ynghanol siarad arall. Pa gysylltiad sy' rhwng Wil Dolwen