Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dal y Lleidr (drama).djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

JAC.—Paid â chrio, fachgen. Wyt mewn poen garw.

(Daw TOM i mewn gyda glasiad o ddŵr).

TOM.—Yf hwn, fe ddoi yn well mewn munud.

WIL (heb gymryd sylw o'r dŵr).—O! be na i? Be na i?

DAI.—Gorwedd ar y fainc am dipyn i dy stymog di gael setlo. Ga i nol y mistir neu'r doctor?

WIL (heb gymryd arno glywed Dai, yn codi ar ei draed).—Bois, wnewch chi gadw secret hen gyfaill ?

Y TRI.—Debig iawn, Wil bach.

WIL.—Wel, y fi fuodd yn sied Pantglas neithiwr yn chwilio am wye, ac wedi imi fynd i mewn mi danies fatsen. i gael gweld lle 'roedd y nyth, ond feddylies i ddim am roi y lle ar dân.

JAC.—Be oeddet ti eisie gyda'r wye, Wil?

WIL.—Er mwyn cael pres, debig iawn. Mi ges ddwy geiniog yr un amdanynt