DAL Y LLEIDR.
(Cyfyd y llen ar ystafell ysgwâr un o'r classrooms yn Ysgol y Cyngor. Ar y chwith mae drws o'r maes chware, ac ar y dde ddrws yn arwain o'r neuadd. Ym mur y cefn y mae lle tân, a dwy fainc wedi eu gosod o bobtu iddo. Y mae hefyd ar y chwith amryw ddesciau. Addurnir y muriau gyda darluniau a mapiau. Yn eistedd o bobtu'r tân mae Jac a Tom yn ciniawa. Daw Wil i mewn trwy'r drws ar y dde).
WIL.—Fynnwch chi fygyn, bois? Ma' gen i ddigon o ffags heddyw.
TOM.—Ble ceist ti nhw, Wil?
WIL.—Yn y siop, debig iawn, wyt ti'n meddwl eu bod yn tyfu arna' i, neu fy mod i wedi eu dwyn?
JAC.—Rwy' i'n methu deall ble 'rwyt ti yn cael arian i brynu pethe fel hyn o hyd, Wil.
WIL.—Ma' ffordd ar neud arian, bois bach, ac i'w gneud nhw ma'n rhaid i chi gael