Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dan Lenni'r Nos.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddi hyd y cae." Ond ar hynny disgynnodd ar ei liniau ar y cae, oblegid yn y cae arall, dros y clawdd yn y cae rwdins yn ei ymyl, clywodd leisiau isel, a gwelodd a chlywodd ddigon i'w lygad a'i glust cyfarwydd o ddweud wrtho fod dau barti allan, neu bod dwy rwyd ar waith, beth bynnag, oblegid wedi cropian at y wal a syllu drosti, gwelai siâp tri dyn yn cydsymud—y canol dipyn mwy yn ôl na'r ddau arall,—ychydig bellter oddi wrth ei gilydd, a deallodd yn y fan eu bod yn tynnu rhwyd am adar. Gyda hynny clywai adennydd yn fflapio hanner y ffordd rhwng y potsiar canol a'r un ar y dde, a'r potsiar canol yn cythru ymlaen ac yn gwyro. "Twm Teigar! goch ar fen-i!" murmurodd Robinson-"dyna'i dricia' fo!"

Er llymed oedd llygaid Robinson, nid oedd yn medru gweld popeth yn y tywyllwch, ond gwelai ddigon i'w ddychymyg lenwi'r bylchau, a deallodd fod Twm Teigr, potsiar peryclaf a ffyrnica'r ardaloedd, o'i flaen yn awr yn prysuro'n ddistaw i wasgu pennau'r ffesynt rhwng ei ddannedd, fel y delid hwy, ac yswatiodd am ei fywyd.

Ond cyn cyrraedd y wal, troes y tri photsiar i gyfeiriad arall. "Mae 'na ormod o giang i mi'u taclo nhw heb help," meddai wrtho'i hun, "a 'does arna' i ddim isio cael torri fy esgyrn gan Twm Teigar. Mi â i am Jim. Mae o'n fengach ac yn gryfach na fi, ac yn ddigon byrbwyll[1] i fynd i'r afael â'r gŵr drwg 'i hun, a lwc na' yrr'is i mo'no fo allan heno. Mae o'n 'i wely yn dawel!"

A chychwynnodd Robinson yn ochelgar tua thŷ Jim, ond wedi mynd tipyn o ffordd, dechreuodd redeg, a rhedeg yn gyflym iawn, ag ystyried yr holl wisgi a lyncasai'r noson honno.

Pan gyrhaeddodd at dŷ'r is-gipar, dechreuodd y cŵn gyfarth, ond tawelodd Robinson hwy ag un gair. Yr oedd pob man yn dywyll, ond gwelai lewych egwan y tân ar ffenestr y gegin. Lluchiodd Robinson bridd

  1. Byrbwyll: rash.