i ffenestr y llofft, ond ni ddaeth neb i'r ffenestr, a thaflodd wedyn. Ni wyddai nad oedd Jim yn ei wely, ac ni wyddai chwaith fod y taflu cyntaf wedi deffro'i wraig, a'i dychryn i farwolaeth bron, a bod y greadures honno yn dal ei hanadl yn ei braw, heb feddwl pwy oedd yno. Ond nid oedd gan Robinson amser i'w golli, a thaflodd ychwaneg o bridd i'r ffenestr, a hynny yn galetach o lawer y tro hwn, a chlywodd fachgen hynaf yr is-gipar yn crïo. "Jim!" gwaeddodd Robinson. "Jim! cod mewn munud!"
"Mr. Robinson! O! Mr. Robinson bach! y chi sy na?" meddai gwraig Jim, gan agor y ffenestr. "O'r Tad! mi ddaru'ch 'y 'nychryn i, 'roeddwn i
"Lle mae Jim?" gofynnodd Robinson ar ei thraws. "Tydi o ddim efo chi, Mr. Rob—?" dechreuodd hithau'n bryderus.
"Nag ydi, ne' f'aswn i ddim yn gofyn lle mae o," meddai Robinson, yn sarrug. "Tydi o ddim gartre?"
"Na," ebe Mrs. Williams, "fuo fo ddim gartre'n cael 'i swper heno. Mi aeth allan tua chwech, ac yr oeddwn i'n meddwl—"
"Na hidiwch be' oeddach chi'n 'i feddwl," meddai Robinson, yn llysnafaidd. "Ond, o ran hynny, fydd o byth ar gael pan fydd'i 'isio fo—
"Mae o ar gael yrŵan, beth bynnag," meddai llais chwyrn y tu ôl i Robinson, nes peri i'r cipar neidio, "a mi ofalith hefyd—
"Na hidia ddim yrŵan, Jim bach, rhaid iti fadda'i mi. Tyrd mewn munud am Gaea Tŷ'n Rhos. Mae 'na botsiars yn rhwydo'i hochr i yno.'
"Tewch â d'eud ddyn!" ebe Jim. "Wel, amdanyn' nhw ar unwaith!"
Ac ymaith â'r ddau ar hynny; a chymaint oedd awydd Jim i gael atynt fel mai ar ei orau y medrai Robinson ei ganlyn.