Fel y dynesent, cydiodd Robinson yn ei gôt, ac meddai: "Rwan, Jim, rhaid inni fod yn ofalus; wnaiff rhuthro fel hyn mo'r tro, a 'fydd o help yn y byd inni fynd i'r afael â nhw, a ninna' wedi colli'n gwynt cyn dechra'. Dos di gyda'r gwrych yr ochr acw, a gweithia i'r cyfeiriad yma. Mi wardia' inna'n y porth 'ma, ac os doi di ar 'u traws nhw heb iddy' nhw dy weld di, neidia am un ohony' nhw, a gwaedda wrth wneud hynny; ond cofia di farcio dy dderyn[1] rŵan, a dal dy afael yn hwnnw, a phaid ti â chymryd dy demtio i dreio dal dim ond yr un hwnnw, a mi ofala' inna' am un o'r lleill. A phaid ti â disgwyl iddo fo dy daro di; trawa di gynted ag y cei di gyfle, a thrawo'n iawn, cofia. Dos rŵan.
Beth bynnag oedd barn Jim am y cyfarwyddiadau, cychwynnodd ar unwaith i'r ochr arall, ac wedi cael yno dechreuodd weithio i gyfeiriad Robinson, ond ni welodd neb, ac yn y man cyrhaeddodd hyd at y pen cipar.
"Ydach chi'n siwr ma' yn y fan 'ma yr oedda' nhw?" gofynnodd Jim.
"Ydw," atebodd Robinson, yn sorllyd,[2] "mor siwr ag yr ydw' i y b'asa' ni wedi'u dal nhw 'tasa ti o gwmpas dy fusnes heno. Brenin Mawr! 'tasa' ti tua'r cartre' fel 'roeddat ti i fod, mi f'asat yn clywed 'u hogla' nhw. Mi fyddan' yn ddigon hy toc i ddwad i'r tŷ atat ti. Dyma ni rwan. 'Does gynno ni ddim syniad pwy oedden' nhw. Lle y bu.
"Toedd Dic Cae Bach yr un ohony' nhw, beth bynnag," meddai Jim ar ei draws, a gwelodd Robinson yn startio.
Ni ddywedodd Robinson ddim am foment, a phan siaradodd, yr oedd tipyn o gryndod yn ei lais. "P'am yr wyt ti mor siwr o hynny, Jim?" gofynnodd.
"O, mi ddylech chi w'bod," ebe Jim, "fod Dic wedi gorffen potsio am byth."