"Gwnaf, Robinson," ebe'r plisman, gan gydio yn ei fraich, "a gwell i ch'itha wrando arna' i.
"Be 'dach chi'n feddwl ydach chi'n dreio 'neud, ddyn?" gofynnodd y cipar, gan geisio cythru ei fraich o afael y plisman.
"Robinson," meddai'r plisman, heb ollwng ei afael, â nodyn penderfynol yn ei dôn. "dewch chi ddim odd' 'ma nes daw'r doctor; a chyda llaw, gorau po leiaf o drafferth rowch chi i mi'ch cadw chi yma hefyd ar ych lles chi'ch hun."
"Tydw'i ddim yn ych deall chi, wir, Roberts, ond y'ch look out chi ydi hynny, cofiwch," meddai Robinson.
Yna bu yn ddistaw am funud neu ddau, ond meddai'n y man: "Rydw i'n synnu bod nhw wedi cael yn glir, achos mae'n sicr 'y mod i wedi g'neud fy ôl ar hwnnw aeth i 'ngwddw i, beth bynnag, a mi f'aswn i wedi'i 'neud o na fedra' fo ddim symud heblaw bod rhyw wendid sydyn wedi dwad drosta' i; ond mae'n syndod 'y mod i cystal 'ran hynny."
"Ie, ie," ebe'r plisman, a dyna'r cwbl.