Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dan Lenni'r Nos.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar hynny neidiodd Robinson fel petai sarff wedi ei frathu, a gwaeddodd, "Be' wyt ti'n ddeud, y jailbird c'lwyddog?'

"Deud," ebe Twm, "mai chdi laddodd Dic Cae Bach, a phe 'tasa ti wedi sbio dros y wal, mi f'asat wedi gweld Sam a finna'n wardio yno, ond mi drefnodd y Bod Mawr iti beidio, a mi glywsom y sgwrs i gyd, a mi—

Ond cyn iddo ddweud ychwaneg, troes Robinson yn sydyn, a chyn i neb gael cyfle i'w rwystro, yr oedd dros y clawdd, ac yn ffoi fel petai holl ellyllon[1] y fall yn ei ymlid, a Thwm a Sam yn cychwyn ar ei ôl.

"Rhoswch," meddai'r plisman, "rhoswch ych dau am funud, inni gael deall pethau'n well cyn inni fynd gam ymhellach. Be' oeddet ti'n feddwl, Twm?"

"Hyn," meddai Twm yn frysiog, "mae Robinson wedi lladd Dic Cae Bach heno; mae nhw wedi mynd â fo adre'n gorff. Yr oedd Jim wedi'i weld o'n g'neud, ond 'wydda' Robinson mo hynny nes deudodd Jim wrtho fo, a phan ddalltodd[2] Robinson nad oedd neb arall wedi'i weld o, mi benderfynodd gau ceg Jim, a mae o wedi g'neud hefyd, a mi 'roedd y bwystfil am roi'r bai arna' i. Ar 'i ôl o, Roberts,—dowch!"

"Sam," ebe'r plisman, "aros di yn y fan 'ma efo'r efo Jim, a mi aiff Harri i godi rhai o'r cymdogion 'ma i ddwad i nôl o."

"Ac," meddai Dr. Huws, "mi alwa' inna' efo Mrs. Williams i' pharatoi hi. Mi fydd hyn yn sioc ofnadwy iddi hi a'i babi hi'n ddim ond dau fis oed."

"Diolch yn fawr i chi, syr," ebe'r plisman. "Rwan, 'ta, Twm, ond paid ti a'i faeddu[3] o, cofia di."

A chychwynnodd y ddau.

Am gwr cyfer coed oedd yn ymyl—y Cyfer Du—fel y'i gelwid, y gwnaethai Robinson hi, ond heb gynllun o fath yn y byd. Dim ond ffoi-ffoi i rywle o'r lle, oblegid gwelsai ar amrantiad pan ddeallodd fod Twm Teigr

  1. Ellyll: demon.
  2. Ddalltodd: ddeallodd.
  3. Maeddu: to maul.