Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dan Lenni'r Nos.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a Sam Bach wedi ei glywed, ei bod hi wedi diffodd arno, a daeth arno fraw annirnadwy, ac wrth iddo ffoi, saethai iasau o arswyd ofnadwy drwyddo fel y sylweddolai ei sefyllfa ddiobaith. "Duw Mawr! be' wna' i?" meddai. "Mae hi wedi darfod arna' i."

Yn ei ddychryn gorffwyllog,[1] rhedai fel ewig, ac yn fuan iawn, yr oedd yng nghwr y coed. Ac wedi cael drosodd, safodd am eiliad, a chlywai dwrw rhywun yn union o'i flaen yn rhuthro oddi wrtho, a gwelai gysgod dyn yn neidio o'r coed ac yn rhedeg gyda'u hymyl yn y cae.

"Potsiar," meddai, yn chwerw, "ond beth ydi potsiar i mi rŵan, a'r crocbren o 'mlaen i?"

Ar hynny, clywai dwrw rhedeg tua'r cyfer. "Y Nefoedd Fawr!" meddai, "ma' nhw wrth yn sodla' i'n barod," a llamodd ymlaen.

Er cyn gryfed a chadarned dyn oedd Twm Deigr, nid oedd arno ddim cnawd wâst, nac owns o fraster; ac er bod y plisman yn heini ac yn sionc, nid oedd ganddo'r siawns leiaf gyda'r Teigr,—enillai arno bob llathen, a chyrhaeddodd y coed gryn hanner can llath o'i flaen, ac wedi cael trosodd, safodd i wrando, a chlywai dwrw dail yn siffrwd, a mân frigau yn clecian dan draed rhywun yn rhedeg draw, ac ail gychwynnodd yntau.

Methai Dafydd Denau, y potsiar a neidiodd o'r coed o flaen Robinson, yn lân â deall pethau, oblegid tybiasai yn hollol naturiol, pan neidiodd Robinson i'r coed, mai dyfod ar ei ôl ef yr ydoedd, ac er bod ganddo faich da o gêm yn y cwd ar ei gefn, ni feddyliodd am foment y gallai ddianc a chario'r gêm hefyd, felly gollyngodd y bag yn y fan, a dechreuodd redeg am ei hoedl.

Ond er ei fawr syndod, ni ddaeth neb drosodd ar ei ôl, a rhagor na hynny, draw oddi wrtho y rhedai pwy bynnag oedd yno. "Wel, 'tawn i'n marw!" meddai yn syn, a safodd mewn penbleth. "'Tydw'i ddim yn dallt hyn; mae'n rhaid bod yr hen Robis wedi 'nghlywed i,

  1. Gorffwyllog: frenzied.